Mae Rhuddlan yn ddyledus am ei phwysigrwydd hanesyddol i’w safle wrth groesiad hynafol o’r Afon Clwyd.
Pwy bynnag oedd yn rheoli’r groesfan o’r afon oedd yn rheoli’r ffordd hawsaf i ymosod ar ac i ddychwelyd o galon Ogledd Cymru.
Felly am bum can mlynedd, bu Rhuddlan yn fflachbwynt mewn rhyfeloedd rhwng y Cymry a’r Saeson.
Yn ei dro, daeth yn safle brwydr fawr rhwng y Brenin Offa o Mersia a’r Cymry; yn fwrdeistrf gaerog; yn balas i dywysog Cymreig; caer Normanaidd (y ‘Twthill’); ac, yn ddiweddarach, yn gastell caerog o gerrig.