Skip to main content
Croeso Cymdeithas Hanes Lleol Rhuddlan
Dod â Hanes i'r Gymuned

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Lleol Rhuddlan yn 2008.  Mae’n cael ei reoli gan bwyllgor bychan sy’n cyfarfod yn fisol ac fe’i hetholir am gyfnod o dair blynedd.

Mae’r Gymdeithas yn cynnal cyfarfodydd o ddarlithoedd gan groesawy siaradwyr gwadd sy’n siarad ar nifer eang o destunnau, fel arfer ar thema hanesyddol, ac hefyd gyda cysylltiadau ȃ Gogledd Cymru.  Cost Tȃl Aelodaeth o’r Gymdeithas ar hyn o bryd yw £12 y flwyddyn.

Yn ogystal ȃ chynnal darlithoedd mae’r Gymdeithas yn ymgymryd ȃ gwahanol brosiectau fel cynhyrchu calendrau a phrosiect ysgol gyda Ysgol y Castell.

Yda chi ȃ diddordeb mewn hanes teulu, neu eisiau gwybod mwy am rhyw agwedd o hanes lleol?  Gall ein hymchwilydd wneud ymchwil sylfaenol ar eich rhan am gyfraniad cychwynol o £20.

Yn ogystal a’r wefan hon, cadwch olwg am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r y dyfodol ar ein tudalen Facebook.

Os yw’r ateb ddim ar y wefan, gellwch gysylltu ȃ’r Gymdeithas trwy ei hebostio ar ein cyfeiriad ebost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy ddefnyddio ein Ffurflen Gysylltu. 

Mae gennym gasgliad ardderchog o hen ffotograffau; serch hynny, rydym bob amser yn falch o glywed oddi wrth unrhywun sydd a chasgliad personnol o luniau y byddent yn barod i’w rhannu ȃ ni.

Upcoming Events(homepage)

"Bringing History To The Community"

RLHS

Facebook Feed