Skip to main content

Castell Rhuddlan

Cynlluniwyd y castell ar gyfer y Brenin Edward I gan y pensaer enwog Iago o Sant Sior, y cyntaf o’r careau consentrig chwyldroadol – yn eu plith Conwy, Harlech a Beaumaris – a godwyd gan Edward i amgylchynu a rheoli Gogledd Cymru.

Yn lle’r gorthwr arferol, mae ei amddiffynfeyd yn cynnwys tri cylch consentrig o amdiffynfeydd. Y linell amddiffyn mewnol a’r mwyaf trawiadol yw’r gadarnle ar siap diamwnt gyda giatiau tyrrog ar ddwy gongl a thyrrau crwn unigol ar y corneli eraill.

Y tu draw i hwn mae cylch allanol o waliau îs a thyrrau arnynt a thu draw i’r rheini ffȏs ddofn yn ei gysylltu ȃ’r Afon Clwyd.

Trwy gampwaith o beirianeg canol oesol, newidwyd yr afon araf a throellog yma i fod yn sianel ddofn o ddŵr a arweiniai’n syth i’r mȏr fel y gallai llongau Edward hwylio yno ar adeg os fyddai’r castell dan warchae. O’r stori, yma yn Rhuddlan ac nid yng Nghaernarfon

Adeiladwyd y sianel dwy filltir o hyd gan tua saith deg o gonscriptiaid o ffeniau  Swydd Gaerhirfryn.

Fel canlyniad i hyn Rhuddlan oedd canolfan Edward i ymosod ar Ogledd Cymru yn 1282.

Yn ȏl y fersiynau hynaf o’r stori yma yn Rhuddlan ac nid yng Nghaernarfon, y cyhoeddodd Edward ei fab bychan (‘wedi ei eni yng Nghymru ac heb air o Saesneg’) y Tywysog Cymru Saesneg Cyntaf a chafodd hyn ei gadarnhau gan Senedd a gynhaliwyd yma yn 1284.