Castel Dinbych
Ar un adeg roedd y castell hwn yn gartref brenhinol i Dafydd ap Gruffudd
Profociwyd Edward I, ar ȏl ymosodiad ar Gastell Penarlag, i ymosod yno ddifri ar Ogledd Cymru.
Felly, erbyn 1282, roedd Dinbych yn nwylo Comander y Brenin, Henry de Lacy.
Heb wastraffu amser, adeiladwyd caer enfawr o gerrig gyda muriau o amgylch y dref a hynny wedi eu hadeiladu ar ben cadarnle Dafydd. Ond, ‘toedd y Cymry heb orffen eto! Ymosodwyd a choncrwyd y castell oedd ar hanner gael ei adeiladu ac erbyn i’r Saeson ei adennill roeddent wedi newid y cynlluniau.
Gwnaethent yn siwr fod y muriau’n llawer uwch, ychwanegu’r Brif Fynedfa fawreddog ac ychwanegu drws cudd celfydd, fel y gallai’r amddiffynwyr ddianc mewn argyfwng.
Heb ei orffen efallai, ond bu’r castell yn safle i ddenu digwyddiadau o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn 1400, cadwodd Henry Percy Owain Glyndŵr rhag ymosod ar y castell am ddwy flynedd cyn codi’n erbyn y frenhiniaeth Seisnig ei hun.
Yn 1563 rhoddwyd y castell i un o ffefrynnau, ac yn ȏl rhai, cariad y Frenhines Elisabeth I, Robert Dudley.
Gwnaeth y Barwn Dinbych a Iarll Caerlŷr newydd ychydig o atgyweiriadau i’r mannau hynny lle roedd y teulu’n byw, ond aeth y rhan fywaf o’i sylw ar adeiladu eglwys anferth fel eglwys gadeiriol o fewn muriau’r dref.
Ar ddechrau’r Rhyfel Cartref aeth y gwaith di-ddiolch o amddiffyn y castel ar ran y Brenhinwyr i‘r Cyrnol Wiliam Salesbury. Daliodd allan am chew mis o dan amodau dychrynllyd, ond yn y diwedd ildiodd y castell o dan orchymyn y Brenin Siarl I.
Gorymdeithiodd Salesbury a’i ddynion allan o’r castell yn chwifio baneri, curo drymiau a chwythu eu trwmpedi ac hyd yn oed hefo’u mwsgedi wedi eu llwytho!!!!
Castell gyda hanes hynod o ddiddorol, sydd werth yr ymdrech i ymweld ag o, ac, yn ȏl pob son, sydd ȃ synnau o ymladd canoloesol yn cael ui creu gan dechnoleg fodern yno.