Skip to main content

Castell Fflint

Y mis hwn rydym yn ôl yn Sir y Fflint yng Nghastell y Fflint. Hwn oedd y castell cyntaf a adeiladwyd gan Edward 1.

Ar ȏl marwolaeth ei dad, Harri III, prif orchwyl Edward oedd i atgyfnerthu’r Frenhiniaeth, ac, er iddo ar y dechrau gadw at Gytundeb Trefaldwyn a Llywelyn ap Gruffydd fel prif arglwydd Cymru, buan iawn aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth wrth i Lewelyn wrthod talu teyrnged i Edward. Hefyd, gwrthododd Llywelyn fynychu nifer o gyfarfodydd hefo Edward, penderfynodd y Saeson ymosod ar Lywelyn a phan na ddaeth ateb i’r bygythiad hwn gorchmynodd Edward i’w fyddinoedd i ymgasglu yng Nghaerwrangon ar Orffennaf 1af, 1277.

Wedi casglu byddin o 15,000 a llynges fawr, ni pharhaodd Rhyfel Annibynniaeth gyntaf Cymru’n hir iawn.  Gorymdeithiodd Edward ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac yn wyneb anhawsterau mawr ciliodd Llywelyn i fynyddoedd Eryri.  Gobaith Llywelyn oeddiI dynnu’r Brenin a’I filwyr i frwydro agos, wyneb yn wyneb, ond cafodd ei siomi pan ymosododd Edward gyda’i lynges ar Ynys Mȏn.  Gorfodwyd y Cymry i ildio yng Nghytundeb Aberconwy (Tachwedd 1277).

Yna dechreuodd Edward ar ei gynllun o adeiladu cyfres o gestyll, gan gychwyn gyda Castell Fflint.

Nid oedd yna aneddiad yn Y Fflint pan gyrhaeddodd y Saeson; mae’n debyg oherwydd fod y safle’n cael ei guddio gan dir uwch, ond gwelodd Edward agosatrwydd yr Afon Dyfrdwy fel bonws i allu cario cyflenwadau yno, ac adeiladwyd y castell ar garreg oedd yn gwthio allan i’r afon gyda ffȏs fyddai’n llenwi ar lanw uchel.  Credir bod yr ysbrydoliaeth i greu Castell Fflint wedi dod o’r dref Ffrengig Aigures Mortes oedd ȃ thŵr mawr o fewn muriau’r dref.  Fflint yw’r unig un o gestyll Edward sydd ȃ Gorthwr Donjon.  

Codwyd aneddiad ar gyfer y bobl gyffredin i’r de o’r castell.

Roedd y gweithlu ar gyfer adeiladu’r castell wedi eu recriwtio o Gaer, Devises, Caerhirfryn, Nottingham, Stafford a Warwick.

Gwahoddwyd seiri coed, cloddwyr, gwneuthurwyr ffosydd a seiri maen i ymuno ȃ’r gweithlu brenhinol neu gael eu cartrefi wedi eu llosgi!!

Erbyn Gorffennaf 25ain,1277 roedd gwaith ar y castell newydd wedi cychwyn.  Richard L’Engenour oedd yn gyfrifol am arolygu cychwyn y gwaith, ond erbyn Tachwedd 1278 arolygwyd y gwaith gan beiriannydd enwog Edward, Iago o Sant Sior (Master James of St. George).  Erbyn 1282 roedd y catell bron wedi ei orffen.

Ar ȏl y Rhyfel yn 1276/7 gadawyd i Lywelyn gadw’r teitl Tywysog Cymru, ond gorfodwyd ef i dalu gwrogaeth i Edward I.  Rhododd Edward diroedd lawer, rgan fwyaf o gwmpas Dinbych, i Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn, fel tȃl am ei gefnogaeth yn ystod y rhyfel.  Daeth hynny i ben pan wrthryfelodd Dafydd yn erbyn rheolaeth y Saeson ar diroedd Cymru yn 1282. Ymosododd Llywelyn a Dafydd gyda’i gilydd ar y Saeson a arweiniodd i Ail Ryfel Annibynniaeth i Gymru.

Gorchfygwyd hwy gan fyddin gryfach y Saeson, ac, ym Mrwydr Pont Orewin yn 1282, lladdwyd Llywelyn a charcharwyd Dafydd cyn ei ladd mewn ffordd mwyaf erchyll. Dafydd oedd y cyntaf i gael ei gosbi trwy gael ‘ei grogi, ei dynnu tu ȏl i geffyl a’i chwarteru’!!

Goroesodd Fflint ddymchweliad Rhisiart III yn y 14 ganrif, ond yn 1646, daliodd yr hen gastell ei dir am dri mis nes i’r garsiwn gael eu llwgu i ildio.

Ar ȏl y Rhyfel anwybyddwyd Castell Fflint gan Y Seneddwyr a disgynnodd yr adeilad i adfeilion.  Serch hynny, defnyddiwyd y Beili Allanol fel safle’r Carchar Sirol rhwng 1785 a 1880.  Roedd Canolfan Trydedd Fataliwn y Fiwsilwyr Cymreig yn yr adeiladau wrth yr hen gastell rhwng 1912 a 1969.