Tynol i'r Odyn, Rhuddlan

Morfa Rhuddlan

Mae'r dôn hynafol a dolefus Morfa Rhuddlan yn coffâu brwydr Morfa Rhuddlan yn 795, pan orchfygwyd y Cymry gan y Sacsoniaid.

Du ac arswydus yw'r hanes
__am heddiw
Trechodd Caethiwed
__fyddinoedd y Rhydd
Ciliodd yr heulwen wrth
__weld ein distryw
Cleddyf y gelyn a gariodd
__y dydd!
Gwylliaid ysgrechiant ar faes
__y gyflafan
Ceisio ys glyfaeth mae'r
__blaidd a'r dylluan
Wylo mae Rhyddid ar hen
__ Forfa Rhuddlan
Glwad annibynnol byth
__mwyach ni bydd.

. . . . . . . .

"Having crossed the river Conwy, or rather an arm of the sea, under Deganwy, leaving the Cistercian monastery of Conwy on the western bank of the river to our right hand, we arrived at Ruthlan, a noble castle on the river Cloyd, belonging to David, the eldest son of Owen, where, at the earnest invitation of David himself, we were handsomely entertained that night."

"There is a spring not far from Ruthlan, in the province of Tegengel, which not only regularly ebbs and flows like the sea, twice in twenty-four hours, but at other times frequently rises and falls both by night and day."

"Many persons in the morning having been persuaded to dedicate themselves to the service of Christ, we proceeded from Ruthlan to the small cathedral church of Lanelwy: from whence (the archbishop having celebrated mass) we continued our journey through a country rich in minerals of silver, where money is sought in the bowels of the earth, to the little cell of Basinwerk, where we passed the night."

Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yn disgrifio ei daith drwy Gymru gyda Archesgob Baldwin yn 1188, o Itinerarium Cambriae, 1191.


Hanes Rhuddlan

Crynodeb o ddyddiadau

7,000 CC
Anheddiad Mesolithig.

Tua 785
Adeiladu Clawdd Offa, ger Prestatyn, i nodi'r ffin gyntaf effeithiol rhwng Cymru a Lloegr.

796
Brwydr Morfa Rhuddlan. Buddugoliaeth Sacsonaidd, o dan Offa, Brenin Mersia dros y Brenin Caradog ap Meirion.

921
Sefydlwyd Cledemutha, y gaer Eingl Sacsonaidd gan Edward yr Hynaf.

1021
Castell a adeiladwyd gan Lywelyn ap Seisyll ar ôl iddo oresgyn gogledd Cymru a ladd Aeddan ap Blegywryd, Tywysog Gwynedd a'i bedwar mab yn 1018. Cafodd ei lofruddio yn fuan wedyn.

1063
Dinistriwyd anheddiad Gruffydd ap Llywelyn yn Rhuddlan gan Harold.

1066-87
Bathwyd darnau arian yn Rhuddlan yn ystod cyfnod Wiliam y Concwerwr.

1073
Adeiladu castell mwnt a beili yn Twtil gan yr Arglwydd Normanaidd,
Robert o Ruddlan.

1075
Gruffydd ap Cynan yn cipio beili castell Robert, ond yn methu â goresgyn
y domen.

1086
Cofnodwyd Rhuddlan yn Llyfr Dydd y Farn fel Roeland.

Tua 1150
Rhuddlan yn cael ei chipio gan Owain Gwynedd.

1157
Rhuddlan yn cael ei ailfeddiannu gan y Saeson.

1167
Ailgipiwyd Rhuddlan gan Owain Gwynedd ar ôl tri mis o warchae.

1216-72
Bathwyd darnau arian yn Rhuddlan yn ystod cyfnod Harri III.

1241
Rhuddlan yn cael ei goresgyn gan y Saeson o dan Harri III.

1254
Trosglwyddwyd i Edward (mab y Brenin) Iwerddon, Iarllaeth Caer (gan gynnwys Rhuddlan), tiroedd y Brenin yng Nghymru, Ynysoedd y Sianel a Gasgwyn.

1258
Sefydlu Priordy'r Brodyr Duon yn Rhuddlan yn 1258 neu cyn hynny.

1267
Cytundeb Trefaldwyn: Llywelyn ap Gruffydd yn derbyn Rhuddlan a phedwar cantref y ffin.

Brenin Edward I o Loegr
1270-4

Edward yn absennol ar Groesgad; etifeddu coron Lloegr fel Edward I yn ildio yn Rhuddlan.

1277
Edward I - y rhyfel cyntaf yng Nghymru; Llywelyn ap Gruffydd ildio yn Rhuddlan.

1277-82
Adeiladu Castell Rhuddlan a thref newydd.

1277-80
Gwaith yn digwydd i ailgyfeirio a dyfnhau Afon Clwyd, 'The Great Ditch' gan 968 o 'Navvies'.

Tywesoges Elizabeth o Ruddlan Frenhines Eleanor, Eleanor o Castille
1282, 7 Awst
Elizabeth o Ruddlan, a elwir hefyd yn Elizabeth Plantagenet yn cael ei geni yng Nghastell Rhuddlan, merch y Brenin Edward I a'r Frenhines Eleanor.

1282
Edward I yn ail ryfel Cymru a marwolaeth Llywelyn.

1282
Yn ôl y chwedl daethpwyd â phen Llywelyn i Edward I yn Rhuddlan.

1284
Cyhoeddi Statud Cymru (Statud Rhuddlan) yn Rhuddlan.

1301
Sefydlu Eglwys y Santes Fair.

1399
Carcharu'r Brenin Richard II yng Nghastell Rhuddlan.

1400-10
Gwrthryfel Owain Glyndŵr.

1536
Y Deddfau Uno: Siroedd Cymru yn cael eu cynrychioli yn Senedd Lloegr. Rhuddlan yn Sir y Fflint.

1538
Diddymu'r Priordy Dominicaidd gan Harri VIII.

1595
Ailgodi pont dau fwa dros Afon Clwyd. Y bont yn dangos arfbais William Hughes, Esgob Llanelwy.

1646
Y Rhyfel Cartref: Castell Rhuddlan yn ildio i'r Seneddwyr.

1648
Penderfynu fod Castell Rhuddlan bellach yn anghynaladwy.

1672
Adeiladu'r Gwledd-dy (Banquet House).

1806
Mesur Sylfaen Rhuddlan – 'Prif Triongli Prydain Fawr' gan yr Arolwg Ordnans.

1850
Eisteddfod Rhuddlan.
Awdl Ieuan Glan Geirionydd - Cyflafan Morfa Rhuddlan.

1858, Hydref 5
Agorwyd y Rheilffordd i deithwyr.

1896
Defnyddiwyd y sillafiad presennol o Rhuddlan yn swyddogol.

1914-18
Rhyfel Byd Cyntaf - gosodwyd y canlynol eu bywydau i lawr -
Reginald Davies; Archibald Edwards; Glyn A. Edwards; Percy Evans;
John W. Frost; Ivor Griffiths; Richard Griffiths; John Ingleby; David Jones;
John E. Jones; John O. Jones; Joseph Jones; Thomas Jones;
Joseph W. Parry; Robert P. Pritchard; G.S. Rowley-Conwy;
Noel C. Sarson
; Richard H. Williams; Robert Williams; Thomas Williams; Thomas Wynne; W.H. Williams.

Philip Jones Griffiths
1936

Ganwyd Philip Jones Griffiths, ffotograffydd, yn Rhuddlan.

1939-45
Ail Ryfel Byd - gosodwyd y canlynol eu bywydau i lawr - John Anwyl;
Edward Evans; Harry Griffiths; Geoffrey Hirst; Harold H. Jones;
Charles Randles; David Lloyd Roberts; Hesketh Lloyd Roberts;
Alexander Spence; George Staley; Eyton Williams; Noel Wynne;
T. Jones; C. Schofield.

1947
Dechrau ar waith cadwraeth.

1955
Caewyd y rheilffordd i deithwyr.

1976
Rhuddlan yn Sir Clwyd.

1996
Rhuddlan yn Sir Ddinbych.

2008
Bu farw Philip Jones Griffiths.

Mawrth 19, 2011
Agorwyd Gwarchodfa Natur Leol Rhuddlan gan Raymond Fagan.

Awst 13, 2014
Dadorchuddwyd plac llechen yn Monfa, Lôn Hylas, yn coffáu man geni
Philip Jones Griffiths (1936-2008), ffoto-newyddiadurwr byd-enwog.

Cartref

Hanes RHUDDLAN History
www.natur-rhuddlan.com

© 2011-2016. Cedwir pob hawl

Ymwrthodiad

Cartref

Bathdy Rhuddlan

Arian Brenin Richard I
a Brenin John 1190

Eglwys y Santes Fair

Morfa Rhuddlan -
Gŵyl Ban Geltaidd

Morfa Rhuddlan -
yr alaw

Twtil

Priordy'r Brodyr Duon

James o St. George

Neuadd Bodrhyddan

Hue de Rotelande

Adluniad o Gastell
Rhuddlan tua 1282

Tŵr Gillot

Croes Cricin

Thomas Pennant,
A Journey to Snowdon,
1781

Digwyddiad tua 1949
Castell Rhuddlan (iMovie)

Ail Rhyfel Byd (iMovie)

Magnum – Philip Jones Griffiths

Philip Jones Griffiths
Philip Jones Griffiths
1936-2008 –
o ddisgybl ysgol Sul
yn Rhuddlan i ffotograffwr
Rhyfel Fiet-nam

Ffotograffau Rhyfel Fiet-Nam
Philip Jones Griffiths

Y Berfeddwlad

Cantref

Deceangli

Tegeingl

Teyrnas Gwynedd

Gerallt Gymro / Giraldus Cambrensis

Dafydd ab Owain Gwynedd

Rhuddlan - yr alaw -
Judge eternal, throned in splendour

John Evans (1770-1851)
tirfesurydd, ysgolfeistr a cherddor

Anian II (m.1293), Prior Cwfaint
y Brodyr Duon

Pedr Alaw (Peter Edwards)
(1854-1934) cerddor

Owain Alaw Pencerdd

(John Owen) ennillwr wobr
(1821-1883) cerddor

Idris Fychan, John Jones
(1825-1887) ennillwr wobr
Eisteddfod Rhuddlan, 1850

Gwrgant (William Jones)
(1803-1886) beirniad
Eisteddfod Rhuddlan, 1850

Roger Lestrange (m.1311)
Ustus yn Rhuddlan, 1278

Mapiau hanes Cymru

Ceiniogau Rhuddlan

Tua 1205, Brenin John
Ceiniog Croes Byr

John Elias: Exodus 34.21

Treasure Island
Treasure Island
- Long John Silver
Owen & John Lloyd

Cwmwd

The Trial of the Pyx

El Alamein Snapshots

Y Brawd William de Freney

Brawd William de Freney, yn gwisgo'i
wisg lawn fel Archesgob Rages
Mewn Enw, sef Edessa (Şanlıurfa)
erbyn heddiw yn Nhwrci.

Valid XHTML 1.0 Transitional

Valid CSS!