Rhuddlan

Welsh Culture

Diwylliant Cymraeg


Cyflafan Morfa Rhuddlan
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


Cilia'r haul draw, dros ael bryniau hael Arfon;
Lleni'r nos sy'n myn'd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni;
Ar fy nghlust draw mae ust y dón yn distewi;
Dan fy mron clywa'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth i'm fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan; -
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian:
Clywaf si eirf, heb ri, arni yn tincian;
O'r bwäau gwyllt mae'n gwau, saethau gan sîo;
A thrwst mawr, nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo,
Ond uwch sain twrf y rhai'n ac ochain y clwyfawg,
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg, -
"Rhag gwneud brad ein hen wlad, trown eu câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan!"

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo;
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd, yn gwrido,
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy' torrant drwy lydain adwyon:
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi, -
"Dod yn awr nerth i lawr, yn ein mawr gyni
Boed i ti, O! ein Rhi, roddi ein trigfan:
Llwydda'n awr, ein llu mawr, ar Forfa Rhuddlan!"

Troswyf daeth, fel rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost bloeddiau tost ymffrost y gelyn:
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym, ond dy Ri, ddug i ti goncwest,
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n wylaw o'r drysau,
Am lwydd câd Cymru fad, - rhâd ar eu harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth wel'd brad gŵyr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.

Bryn a phant, cwm a nant, llanwant â'u hoergri;
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu;
Braw a brys sydd trwy lys parchus Caradog,
Gwaeiddi mawr fyn'd i lawr Flaenawr galluog;
Geilw ei fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan".

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio,
Am y fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod
Ond caf draw, gerllaw'r Llan drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhŷ'r Ficer fry, gan ei gu rian,
Llety gaf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.

Slaughter at Morva Rhuddlan
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


O'er Arvon's heights the sun sank low,
The veil of night doth all invest,
The zephyr's breath hath ceased to blow,
And distant waves are lulled rest,
My Heart within my Heaving breast,
Oh! deeply throbs with grief and pain,
'Whilst musing on that scene unblest,
On Morva Rhuddlan's fatal plain!

Breakthrough the gloom upon my sight,
The massive shields! Ha! Now I hear
'The clash of blades - the hissing fight
Of arrows - and the charging cheer;
But, hark! 'bove all, both loud and clear,
Caradoc's voice above the slain -
'Turn we their battle's wild career.
Or sink on Morva on Rhuddlan's plain!

'Each (Briton's heart - with courage swells,
Each (British cheek's with fury red;
Each nervous arm a foeman fells,
'Each blade a fiercer death hath sped;
Lo! frightful gaps - and dead on dead!
Whilst Cambria prays that Heaven would shield
Her hearths and homes - her warriors aid
In fight on Rhuddlan's Bloody field!

By solemn dread my soul's assailed;
The victor's shouts now louder grow!
Boast not; 'twas numbers that prevailed,
find not thy might, exulting foe!
But oh! of those the grief and woe,
find waiting as they fly to gain
The mountain heights, and leave below
Their dead on Rhuddlan's Bloody plain.

Old Snowdon's crags - each stream and dell,
Loud echoes, hear to British wail!
and rocks to rocks responsive tell
Of Cambria's loss the fearful tale;
And now upon the rising gale
Is Borne Caradoc's fate along,
And weeping Bards his fall bewail
In Morva Rhuddlan's mournful song!

I seek, the warrior's lowly bed
On Rhuddlan's Marsh; But cannot trace
A vestige of the noble dead,
Or aught to mark their resting place,
Green rush and reeds are aft that grace
The graves of those in fight who fell,
For freedom - for their land and race,
Oh fatal field! farewell, farewell!

Originally translated from the Welsh by JM Jones, Trefriw from The Vale of Clwyd Handbook printed by William Davies in 1856, with a modern translation by David Wood.

© 2011-2016. All rights reserved.

Valid XHTML 1.0 Transitional

Valid CSS!